Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf 2019
Amser:
08.30 -
08.51
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Lowri Hughes, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar Ffermio Cynaliadwy a'n Tir wedi cael ei ychwanegu at fusnes Dydd Mawrth.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y caiff y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach - Blwyddyn Yn Ddiweddarach ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019 -
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Blaenoriaethau Brexit (30 munud)
Dydd Mercher 25 Medi 2019 -
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a nododd fod yna bellach ddatganiad gan y llywodraeth ar Brexit wedi'i drefnu ar gyfer 16 Gorffennaf. Cytunwyd i drefnu datganiad y Cadeirydd ar 17 Gorffennaf, yn amodol ar gadarnhad gan y Pwyllgor ei fod yn dal yn awyddus i fwrw ymlaen, yng ngoleuni'r datganiad a ychwanegwyd yn ddiweddar gan y llywodraeth.
Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i'w hysbysu am yr amserlen gyllidebol arfaethedig, ac y bydd yn awr yn ysgrifennu at bob Pwyllgor arall.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, yn unol â'r Rheolau Sefydlog, a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod cyntaf ym mis Medi.
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y Rheol Sefydlog ddrafft a chytunwyd i ddychwelyd ati yn yr hydref, ar ôl trafod gyda'u grwpiau. Cytunwyd hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ymgynghori ar y cynigion.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i aros am ymatebion gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn ystyried ymhellach.